Yn y bennod yma, rydyn ni’n edrych ar sut beth yw rhedeg busnes yn ardal ARFOR a’r gefnogaeth sydd ar gael i entrepreneuriaid lleol.
Yn ymuno gyda ni mae dau westai ysbrydoledig: Daniel Grant, sylfaenydd Pen Wiwar, brand dillad cynaliadwy sy’n dathlu harddwch Cymru, a Tomos Owen, cyd-sylfaenydd Pelly, platfform pwerus sy’n galluogi clybiau pêl-droed i wneud penderfyniadau doethach a chyflymach. Mae’r ddau wedi elwa o gefnogaeth Llwyddo’n Lleol i ddatblygu eu syniadau ac adeiladu busnesau llwyddiannus yn ein hardal wledig.
Gyda chefnogaeth gan Raglen ARFOR, bydd ein sgwrs yn trafod sut y dechreuodd eu taith, y ffordd maen nhw’n defnyddio eu busnesau i gysylltu â’u cymunedau, a’r rôl y mae Llwyddo’n Lleol wedi’i chwarae yn eu llwyddiant. Byddwn hefyd yn ystyried eu gweledigaethau ar gyfer y dyfodol a’r hyn sy’n gwneud ARFOR yn lle arbennig i lansio a thyfu busnes.
Os ydych chi’n chwilio am ysbrydoliaeth neu eisiau gwybod mwy am botensial ein hardaloedd gwledig, rydych chi yn y lle iawn.